Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Medi 2023
Amser:
09.10 -
10.03
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Dab Collier, Gwasanaeth Trawsnewid Strategol |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad addysg ar RAAC (30 munud)
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Adolygiad Annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth
Naturiol Cymru ar lifogydd (30 45 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20mya ar ffyrdd cyfyngedig (45 munud).
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni (30 munud)
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (15 munud)
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (60 munud)
Gofynnodd Darren Millar a Heledd Fychan am ddiweddariad ar RAAC mewn mathau eraill o adeiladau. Nododd y Trefnydd y byddai'n ystyried datganiadau ysgrifenedig neu lafar pellach.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am fân newid i agenda ddydd Mercher:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth am y tair wythnos nesaf.
Dydd Mawrth 19 Medi 2023
· Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (60 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (45 munud)
· Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas ag Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (15 munud)
Dydd Mawrth 26 Medi 2023
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cydnerthedd y System Iechyd a Gofal Cymdeithasol (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Siarter Iaith (Siarter Iaith Gymraeg): Fframwaith Cenedlaethol (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip: Costau Byw (30 munud)
Gwnaeth Heledd Fychan gais am ddiweddariad llafar ar Gyllideb 2023-24 yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 9 Awst. Nododd y Trefnydd y byddai'r llywodraeth yn darparu diweddariad pellach unwaith y bydd y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cabinet wedi'i gwblhau.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 4 Hydref 2023 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ynghylch Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ynghylch yr angen i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i’r ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau (Cymru) i gael ei chynnal.
4.2 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i:
4.3 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y Bil Ynni
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25
5.1 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch newidiadau arfaethedig i Brotocol Busnes y Gyllideb
Nododd y Pwyllgor Busnes y ddau lythyr a chytunodd i aros am ganlyniad gwaith y Pwyllgor Cyllid.
5.2 Atodiad - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y newididau arfaethedig i Brotocol y Gyllideb
5.3 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr amserlen ar gyfer cyllideb 2024-25
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
6 Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch amserlen Bil Diwygio'r Senedd a dyraniad slotiau yn amserlen y pwyllgorau
Trafododd y Pwyllgor Busnes gynigion y Pwyllgor Biliau Diwygio ar gyfer diwygio amserlen y gwaith craffu ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a gynigiwyd i derfynau amser Cyfnod 1 a Chyfnod 2 ac wedi hynny cytunwyd ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer y Bil.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i ddyrannu'r slot cyfarfod parhaol yr oedd y Pwyllgor Biliau Diwygio wedi gofyn amdano, gan nodi mai mater i'r Pwyllgor fyddai penderfynu sut y dylid defnyddio'r amser cyfarfod a ddarparwyd.
6.2 Llythyr gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch slot cyfarfod y pwyllgor
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 gwrdd ar y dyddiadau a'r amseroedd y gwnaed cais amdanynt yn ystod tymor yr hydref 2023.
7 Gwaith Gweithdrefnol
7.1 Gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn craffu ar Offerynnau Statudol sy'n deillio o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a chytunodd i ymgynghori â'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y dull arfaethedig o ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 27 a 30C, a dileu Rheol Sefydlog 30B, gyda'r bwriad o gynnig newidiadau i'r Senedd wedi hynny.
7.2 Cwestiynau Amserol
Trafododd y Pwyllgor Busnes adborth a gafwyd gan grwpiau a nifer o faterion eraill yn ymwneud â'r canllawiau a'r gweithdrefnau presennol ar gyfer Cwestiynau Amserol.
Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ystyried cynigion ar gyfer diwygiadau posibl i ganllawiau mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7.3 Papur ar Raglen Waith Weithdrefnol
Nododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar amserlennu arfaethedig ei waith gweithdrefnol.
Cynigiodd Darren Millar y dylid ystyried gosod terfyn amser ar ymatebion gweinidogol i gwestiynau.